SU OG按
Huna blentyn yn fy mynwes
Clyd a chynnes ydyw hon
Breichiau mam syn dyn am danat,
Cariad mam sy dan fy mron
Ni cha dim amharuth gyntun
Ni wna undyn â thi gam
Hunan dawel, anwyl blentyn
Hunan fwyn ar fron dy fam.
...
Hunan dawel, heno, huna,
Hunan fwyn, y tlws ei lun
Pam yr wyt yn awr yn gwenu,
Gwenun dirion yn dy hun?
Ai angylion fry syn gwenu
Arnat ti yn gwenun llon
Tithaun gwenun ol dan huno
Hunon dawel ar fy mron?
. ..
Paid ag ofni, dim ond deilen
Gura, gura ar y ddor
Paid ag ofni, ton fach unig
Sua, sua ar lan y mor
Huna blentyn, nid oes yma
Ddim i roddi iti fraw
Gwenan dawel yn fy mynwes
Ar yr engyl gwynion draw.